Nodiadau Iechyd a Diogelwch

Mae’r nodyn cyfarwyddyd hwn yn rhoi amlinelliad o arferion gorau o ran iechyd a diogelwch wrth gymryd rhan yn yr arolwg The Big River Watch. Mae hyn yn cynnwys y risgiau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt wrth arsylwi iechyd afonydd. Peidiwch â mynd i mewn i afon i wneud eich arsylwadau. Dylech chwilio am fan diogel wrth ymyl yr afon heb unrhyw berygl o lithro i mewn i’r dŵr a mwynhau ychydig o amser heddychlon yn arsylwi bywyd yr afon.

Mewn argyfwng dylech gysylltu â’r gwasanaethau brys - 999

Eich Cyfrifoldebau

Wrth gymryd rhan yn yr arolwg The Big River Watch chi sy’n gyfrifol am sicrhau eich bod yn ystyried eich iechyd a’ch diogelwch eich hun a’r bobl o’ch cwmpas. Ni ddylech roi eich hun mewn sefyllfa a allai eich rhoi chi, neu bobl eraill, mewn perygl. Nid oes unrhyw orfodaeth arnoch i gymryd rhan neu barhau â’r arolwg os nad yw’n ddiogel i chi wneud hynny. Nid oes unrhyw orfodaeth arnoch i ymweld â safle penodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch iechyd a diogelwch, dylech roi terfyn ar yr arolwg a chysylltu â’r Ymddiriedolaeth Afonydd i fynegi eich pryderon: [email protected]

Asesiad Risg

Cyn ymgymryd â’r arolwg The Big River Watch dylech ystyried y peryglon iechyd diogelwch sy’n gysylltiedig â’r safle lle’r ydych yn arsylwi’r afon ac a oes yna unrhyw amgylchiadau unigol neu gyflyrau meddygol sy’n eich gwneud yn agored i beryglon penodol. Mae meysydd generig o risg wrth ymgymryd â’r arolwg The Big River Watch i’w gweld isod. Fodd bynnag, dylech nodi’r risgiau posib sy’n benodol i’r safle rydych chi’n ymweld ag ef a rhoi rhagofalon ar waith i leihau lefel unrhyw beryglon. Dylech hefyd basio’r wybodaeth iechyd a diogelwch hon ymlaen at unrhyw un arall sy’n eich helpu i gynnal yr arolwg.

Caniatâd Mynediad

Efallai na fydd angen caniatâd arnoch i arsylwi afon y gellir ei chyrchu o lwybr cyhoeddus, neu afon sydd o fewn tir mynediad agored. Peidiwch â mynd ar dir preifat oni bai y gallwch gysylltu â’r tirfeddiannwr i esbonio beth ydych chi’n ei wneud a pham. Peidiwch â pharhau â’r arolwg os yw mynediad yn cael ei wrthod. Ym mhob achos, dilynwch y Cod Cefn Gwlad www.countrysideaccess.gov.uk.

Parcio

Wrth ymweld â safle gofalwch eich bod yn parcio ceir yn synhwyrol, oddi ar y ffordd os yn bosib, a pheidiwch â blocio mynedfeydd.

Ffonau Symudol

Fe’ch cynghorir i gario ffôn symudol, rhag ofn y bydd argyfwng. Noder: efallai na fydd ffonau symudol yn gweithio mewn rhai ardaloedd anghysbell. Os bydd argyfwng gallwch naill ai ddefnyddio’r Rhif Argyfwng Ewropeaidd (112) neu 999 (gweler www.eena.org i gael rhagor o wybodaeth). Gellir deialu 112 hyd yn oed os yw’r bysellbad wedi cloi.

Gwneud eich arsylwadau

Gall cynefinoedd afon fod yn lleoedd peryglus gyda dŵr dwfn, cefnau serth a llithrig, matiau o lystyfiant anniogel sy’n arnofio a dŵr sy’n llifo’n gyflym. Mae unrhyw arolwg a gynhelir gerllaw dŵr yn cynnwys perygl difrifol o anaf neu foddi. Ni ddylech fynd i mewn i’r dŵr i wneud eich arsylwadau. Chwiliwch am safle diogel yn agos at yr afon lle gallwch chi wneud eich arsylwadau heb y perygl o lithro a mynd i mewn i’r dŵr yn ddamweiniol. Cofiwch:

  • Gall afonydd gael eu hamgylchynu gan lystyfiant trwchus a all fod yn berygl baglu, neu achosi crafiadau i'r corff, y wyneb a’r llygaid. Peidiwch â phlygu neu ben-glinio mewn ardaloedd lle mae glaswellt neu blanhigion miniog.
  • Dylech symud tuag at afonydd lle mae’r llif yn araf (e.e. wrth ymyl pont neu o’r dŵr bas).
  • Peidiwch â cheisio arsylwi afonydd sydd wedi chwyddo yn dilyn glaw trwm.
  • Peidiwch ag arsylwi’r afon o ardaloedd gyda pherygl penodol (e.e. llethrau serth, clogwyni, cefnau ansefydlog ac afonydd yn ystod llifogydd).
  • Rydym yn argymell eich bod yn cynnal arolwg The Big River Watch mewn parau bob amser.

Cod Ymarfer Gweithio ar eich Pen eich Hun

Gwnewch yn siŵr bod rhywun cyfrifol yn gwybod ble’r ydych chi bob amser (system bydi). Am resymau iechyd a diogelwch, rydym yn argymell eich bod yn gwneud yr arolwg The Big River Watch mewn parau bob amser. Os byddwch yn gweld bod angen cynnal arolwg ar eich pen eich hun neu os oes rhywun gyda chi, ond eich bod yn gweithio mewn man anghysbell, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gadael y manylion canlynol gyda rhywun cyfrifol a gwnewch yn siŵr ei fod yn gwybod sut i gael help os na fyddwch yn dychwelyd yn ôl y disgwyl. Dylai’r manylion gynnwys: dyddiad ac amser gadael, dull teithio i ac o amgylch safle’r arolwg, y daith arfaethedig, amser disgwyliedig gadael y safle a dychwelyd, a’r manylion adnabod cerbyd. Dylid dweud wrth yr unigolyn y rhoddir y manylion hyn iddo pwy i gysylltu ag ef os na fyddwch yn dychwelyd a phryd i alw am gymorth.

Rhai o dan 18 oed:

Gall rhai o dan 18 oed gymryd rhan yn yr arolwg The Big River Watch os ydynt yng nghwmni oedolyn cyfrifol. Nid oes unrhyw gyfyngiad oedran ar gyfer cymryd rhan yn The Big River Watch, ond byddem yn cynghori rhieni a gwarcheidwaid i roi gwybod i’r plant am y peryglon cysylltiedig ac i fynd gyda nhw. Darllenwch y canllawiau, mwynhewch ac arhoswch yn ddiogel!

Rhagofalon cyffredinol

Gwiriwch ragolygon y tywydd cyn i chi fynd allan a gwisgwch ddillad priodol e.e. esgidiau glaw, llewys hir a throwsus i atal crafiadau a phigiadau danadl poethion. Os yw’n dywydd poeth gwisgwch eli haul a het chantel llydan. Cofiwch yfed digon o ddŵr a mynd â bwyd gyda chi os byddwch chi allan am gyfnodau hir. Dylech osgoi neu roi’r gorau i weithgareddau awyr agored mewn tywydd drwg.

Tir anodd a thraffig

Byddwch yn ofalus iawn wrth gynnal arolwg The Big River Watch ar hyd dyfrffosydd, ymylon clogwyni, neu mewn ardaloedd â thir corslyd, corsleoedd, creigiau rhydd neu ardaloedd â thyllau dan ddaear (e.e. tyllau moch daear a chwningod) sydd i’w cael yn aml ar hyd ymylon caeau. Peidiwch â chroesi safleoedd a allai fod yn beryglus megis chwareli, ceunentydd a rheilffyrdd. Rhowch sylw i arwyddion rhybudd a pheidiwch â mynd ar dir preifat (heb fynediad) sydd wedi’i gau yn fwriadol gan ffensys neu weiren bigog. Cymerwch ofal wrth groesi ffyrdd neu wneud arsylwadau yn agos at ffyrdd neu lwybrau march. Byddwch yn ofalus wrth gerdded mewn ardaloedd gyda gwelededd gwael y gellir eu defnyddio gan feiciau modur neu geffylau. Gwisgwch ddillad llachar i wneud yn siŵr eich bod yn weladwy.

Da byw a pheiriannau amaethyddol

Byddwch yn ofalus iawn wrth fynd i ardaloedd gyda da byw, yn enwedig gwartheg, hyrddod a cheffylau. Os yw da byw yn debygol o fod ar y safle peidiwch â mynd â chi gyda chi pan fyddwch yn gwneud yr arolwg The Big River Watch. Peidiwch â mynd i gaeau lle mae yna deirw. Gall ceirw fod yn ymosodol yn ystod y cyfnod rhidio yn yr hydref. Osgowch gynnal arolwg The Big River Watch yn agos at beirannau amaethyddol sy’n gweithio neu waith coedwigaeth.

Gwrthdaro â phobl a chŵn

Ystyriwch eich diogelwch personol wrth wneud arolwg The Big River Watch gerllaw mannau trafferthus hysbys neu debygol. Osgowch wrthdaro â thirfeddianwyr, gweithwyr tir neu aelodau o’r cyhoedd. Byddwch yn wyliadwrus o gŵn heb dennyn. Diheintiwch unrhyw frathiadau a cheisiwch sylw meddygol. Peidiwch â pharhau â’r arolwg os oes gennych unrhyw bryderon am eich diogelwch personol.

Gwiberod

Gwiriwch a oes gwiberod yn debygol o fod yn bresennol yn yr ardal rydych chi’n ymweld â hi. Edrychwch ar y tir wrth ben-glinio neu osod eich dwylo ar y tir. Gwisgwch esgidiau cryfion. Byddwch yn ofalus iawn wrth godi malurion o’r ddaear.

Clefydau a gludir gan ddŵr

Mae gweithio yn agos at ddŵr yn ffynhonnell bosib o glefydau yn cynnwys leptosbirosis neu glefyd Weil, hepatisis A a thetanws. Ym mhob achos y mesurau ataliol gorau yw:

  • Bod yn ymwybodol o le a sut mae’r clefydau hyn yn cael eu dal ac i gymryd rhagofalon yn seiliedig ar yr wybodaeth hon.
  • Sicrhewch fod eich pigiadau tetanws yn gyfredol.
  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw doriadau ar eich dwylo’n cael eu gorchuddio gyda phlastr gwrth-ddŵr a glanhewch a gorchuddio unrhyw doriadau neu grafiadau sy’n digwydd tra byddwch yn gweithio mewn dŵr.
  • Gwisgwch ddillad amddiffynnol megis menig.
  • Osgowch lyncu dŵr.
  • Sicrhewch fod dwylo'n cael eu golchi ar ôl dod i gysylltiad â dŵr yn enwedig cyn bwyta, yfed neu ysmygu.
  • Os byddwch wedi mynd i mewn i ddŵr ar ddamwain, golchwch yn ofalus cyn gynted â phosib.
  • Os ydych chi'n teimlo'n sâl ar ôl cymryd rhan yn yr arolwg, ceisiwch sylw meddygol a rhowch wybod am y gweithgareddau rydych chi wedi'u gwneud.

Mae clefyd Lyme yn glefyd bacteriol sy’n cael ei drosglwyddo gan drogod anifeiliaid sy'n gysylltiedig â llystyfiant bras, a all arwain at symptomau difrifol os na chaiff ei drin. Gall amrywiaeth o anifeiliaid gario bacteria yn cynnwys defaid, ceirw a ffesantod. Gwiriwch eich croen a’ch gwallt yn rheolaidd. Tynnwch drogod o’r croen cyn gynted â phosib. Gwisgwch ddillad lliw golau fel bod trogod yn weladwy. Rhowch eich sanau dros eich trowsus fel na all trogod lynu neu ddringo i fyny y tu mewn i ddillad heb gael eu gweld. https://www.nhs.uk/conditions/lyme-disease/

Mae tetanws yn gyflwr difrifol ond prin a achosir gan facteria yn mynd i mewn i glwyf. Gall tetanws ddeillio o Clostridiwm tetani, micro-organeb sy’n gyffredin mewn pridd, ac sy’n gallu heintio hyd yn oed mân glwyfau a chrafiadau. Mae’r symptomau’n cynnwys gwingiadau cyhyrau, cyffni a thwymyn. Gall y cyflwr fod yn angheuol heb driniaeth. Y driniaeth fwyaf effeithiol yw sicrhau eich bod wedi cael eich brechu'n llawn. Os ydych yn ansicr ynghylch eich statws brechu neu'n pryderu am glwyf dylech gysylltu â'ch meddyg teulu neu ymweld â'ch uned mân anafiadau agosaf. Am ragor o fanylion ewch i: https://www.nhs.uk/conditions/tetanus/

Mae clefyd Weil (leptospirosis) yn haint bacteriol anghyffredin sy’n cael ei ledaenu gan anifeiliaid. Mae’r risg yn cynyddu os byddwch yn dod i gysylltiad ag afonydd yn rheolaidd. Mae’r organeb yn cael ei chario gan lygod mawr ac anifeiliaid eraill, ac yn cael ei hysgarthu yn yr wrin. Dim ond symptomau ysgafn tebyg i ffliw y mae llawer o bobl yn eu profi ond gall y cyflwr fod yn ddifrifol iawn mewn eraill a hyd yn oed yn angheuol os na chaiff ei drin. Os byddwch yn profi unrhyw symptomau cysylltwch â’ch meddyg teulu. Gallwch osgoi’r risg o glefyd Weil drwy olchi eich dwylo’n drylwyr ar ôl cymryd eich samplau dŵr a thrwy lanhau a gorchuddio clwyfau cyn i chi gasglu’r sampl (e.e. drwy wisgo menig heb latecs). Am ragor o fanylion ewch i: https://www.nhs.uk/conditions/leptospirosis/

Trwy gytuno i gymryd rhan yn yr arolwg The Big River Watch tybir eich bod wedi darllen yr asesiad risg hwn ac y byddwch yn cymryd pob gofal posibl i asesu ac osgoi’r peryglon a restrir ac yn cynnal yr arolwg mewn modd diogel. Os bydd unrhyw ddigwyddiadau, damweiniau neu ddamweiniau bron yn digwydd yn ystod eich arolwg, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â thîm The Big River Watch cyn gynted â phosibl: [email protected]

Back to top