Polisi Preifatrwydd The Big River Watch

Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn disgrifio ein polisïau a'n gweithdrefnau ar gyfer casglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth pan fyddwch yn defnyddio'r gwasanaeth. Mae hefyd yn rhoi gwybod i chi am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn chi.

Rydym yn defnyddio eich data personol i ddarparu’r gwasanaeth, a’i wella. Drwy ddefnyddio'r gwasanaeth, rydych yn cytuno y ceir casglu a defnyddio eich gwybodaeth yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn.

Ein cefndir

Caiff The Big River Watch ei gydlynu gan yr Ymddiriedolaeth Afonydd a’i gefnogi gan bartneriaid a chyllid gan: Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a'r Amgylchedd a Chronfa Waddol Ymchwil Dŵr yr Ymddiriedolaeth Afonydd a phrosiect Catchment Systems Thinking Cooperative (CaSTCo) gan yr Ofwat Innovation Fund.

Yr Ymddiriedolaeth Afonydd sy’n rheoli'r holl waith o brosesu data personol at ddibenion The Big River Watch. Ceir prif Hysbysiad Preifatrwydd yr Ymddiriedolaeth Afonydd yma.https://theriverstrust.org/policies-and-legal-information/privacy-policy

  • 2. Pam ydym ni’n casglu eich gwybodaeth?

Byddwn yn defnyddio data personol yn y ffyrdd yr ydych wedi gofyn i ni wneud yn unig. I ddechrau, mae’r Ymddiriedolaeth Afonydd yn casglu cyn lleied â phosibl o ddata personol er mwyn cynnal arolwg The Big River Watch a chyfathrebu gyda chi. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd yn cwmpasu’r holl weithgareddau sy’n ymwneud ag ap The Big River Watch a'i arolwg.

Dyma’r math o ddata personol y gallwn ei gasglu yn eich cylch chi:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cod post
  • Cofnodion camgymeriadau defnyddiwr y cymhwysiad

Mewn perthynas â diogelu data, rydym yn defnyddio’r ‘sail gyfreithiol’ ‘Caniatâd’ ar gyfer casglu a phrosesu eich data personol.

Mae'r holl ddata mae’r Ymddiriedolaeth Afonydd yn ei gadw yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data y DU ac mae sail prosesu unrhyw ddata personol yr ydym yn ei gasglu gennych chi, neu’r ydych chi’n ei ddarparu i ni, wedi’i chynnwys yn hysbysiad preifatrwydd yr Ymddiriedolaeth Afonydd.

  • 3. Sut ydym yn storio eich gwybodaeth, ac a fyddwn yn ei rhannu?

Bydd y data personol y byddwn yn ei gasglu yn cael ei storio’n ddiogel ac yn cydymffurfio â Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU cyhyd ag y bydd angen i ni gysylltu â chi. Yna, byddwn yn gwneud y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw yn eich cylch yn ddienw.

Rhannu eich gwybodaeth bersonol

Byddwn yn rhannu’ch data personol gyda sefydliadau lleol at ddibenion cysylltu â chi gyda gwybodaeth ynghylch gweithgareddau gwyddoniaeth dinasyddion ac adfer afonydd ar y gweill yn eich ardal, a byddwn wastad yn glynu wrth ddeddfwriaeth Diogelu Data y DU wrth wneud hynny. Drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn, bydd angen i chi gadarnhau eich bod yn derbyn i’r data a roddwch gael ei rannu gan yr Ymddiriedolaeth Afonydd, a bydd gennych y dewis i rannu’ch manylion cyswllt gyda’r Ymddiriedolaeth Afonydd a’ch ardal leol mewn perthynas â'r Ymddiriedolaeth Afonydd.

4. Eich hawliau a’ch diben cyfreithlon

Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn diffinio’n glir hawliau’r unigolyn mewn perthynas â’ch data. Rydym yn casglu ac yn prosesu’r data hwn dan ‘Caniatâd’. Dyma eich hawliau:

  • mae gennych yr hawl i geisio eich data*
  • mae gennych yr hawl i gywiro eich data os yw’n anghywir*
  • mae gennych yr hawl i ofyn am gael dileu eich data*
  • mae gennych yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg*

* Ar gyfer data nad ydyw wedi’i wneud yn ddienw

Gallwch gysylltu â [email protected] yn yr Ymddiriedolaeth Afonydd os oes gennych gwestiwn ynghylch sut caiff eich data ei ddefnyddio yn y prosiect ymchwil.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio, byddwn yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Gallwch gysylltu â ni drwy [email protected]

Yn ogystal, mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae gennych hefyd yr hawl i unioni cyfreithiol effeithiol yn erbyn penderfyniadau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Dileu Data

Ar unrhyw adeg yn ystod neu ar ôl y prosiect, gall unrhyw un sydd wedi darparu Data Personol ofyn i’r holl Bartïon ddileu’r data. Bydd eich data dienw yn cael ei roi yn ArcGIS Online er mwyn ei storio, a gall ymchwilwyr eraill ei ddefnyddio. Pan fydd cymhwysiad The Big River Watch yn dod i ben, bydd Proseswr Data River Watch yn rhoi’r gorau i brosesu'r Data Personol a Rennir.

END OF DOCUMENT

Back to top