Ap Ffonau Symudol The Big River Watch — Terms and Conditions
Mae’r telerau ac amodau hyn (“Telerau”) yn llywodraethu eich defnydd o ap ffonau symudol The Big River Watch (yr “Ap”) a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth Afonydd (y “Cwmni”, “ni”, “ninnau”, neu “ein”).
Ap Ffonau Symudol The Big River Watch - Terms and Conditions
Diweddarwyd Diwethaf: 07/09/2023
Darllenwch bolisi preifatrwydd The Big River Watch yma: https://theriverstrust.org/take-action/the-big-river-watch/big-river-watch-privacy-policy
Mae'r telerau ac amodau hyn ("Telerau") yn llywodraethu eich defnydd o ap ffonau symudol The Big River Watch (yr "Ap") a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth Afonydd (y "Cwmni", "ni", "ninnau", neu "ein"). Drwy lawrlwytho, osod neu ddefnyddio'r Ap, rydych yn cytuno i fod wedi eich rhwymo i'r Telerau hyn. Os nad ydych yn cytuno â'r Telerau hyn, yna peidiwch â defnyddio'r Ap.
1. Derbyn y Telerau
Drwy ddefnyddio'r Ap, rydych yn mynegi ac yn sicrhau eich bod wedi darllen a deall y Telerau hyn, ac yn cytuno i fod wedi eich rhwymo i'r Telerau hyn. Os ydych yn defnyddio'r Ap ar ran sefydliad, rydych hefyd yn mynegi ac yn sicrhau bod gennych yr awdurdod i rwymo'r sefydliad hwnnw i'r Telerau hyn.
2. Preifatrwydd
Caiff eich defnydd o'r Ap ei lywodraethu hefyd gan ein Polisi Preifatrwydd. Darllenwch y Polisi Preifatrwydd i ddeall sut ydym yn casglu, yn defnyddio, ac yn datgelu'ch gwybodaeth.
3. Diben a Defnydd
Cyfyngiadau: Nid oes gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- Copïo, addasu neu ddosbarthu'r Ap.
- Gwneud gwaith peirianyddol i ddad-wneud, dadgrynhoi neu ddadgydosod yr Ap.
- Defnyddio'r Ap mewn unrhyw ffordd anghyfreithlon neu drwy dorri'r Telerau hyn.
4. Cynnwys Defnyddwyr
Pan rydych yn defnyddio’r rhaglen, yn gwneud arsylwadau ac yn uwchlwytho lluniau rydych yn cytuno :
- Mai chi sydd yn berchen ar y cynnwys neu mae gennych ganiatâd y perchennog i ddefnyddio’r cynnwys hwn, ac
- Y gall yr arsylwadau rydych chi’n eu cyflwyno gael eu defnyddio gan yr Ymddiriedolaeth Afonydd a’u cyhoeddi dan delerau’r drwydded CC0 (dim hawliau neilltuedig) Creative Commons ganlynol : https://creativecommons.org/share-your-work/public-domain/cc0/ (ni fyddwn yn cyhoeddi eich data personol – caiff hwn ei reoli’n ddiogel yn unol â’n Polisi Preifatrwydd)
Cynnwys na Ganiateir: Chewch chi ddim cyhoeddi neu uwchlwytho cynnwys anghyfreithlon, sy'n torri hawliau eiddo deallusol, yn drosedd yn erbyn y Telerau hyn, neu'n annymunol fel arall.
5. Diweddariadau a Newidiadau
O bryd i'w gilydd, gallwn ddiweddaru neu newid yr Ap, gan gynnwys ychwanegu neu waredu nodweddion i wneud newidiadau pellach i'r Ap. Rydych yn cytuno bod gennym yr hawl i wneud hynny heb roi rhybudd ymlaen llaw a heb unrhyw atebolrwydd i chi.
6. Terfynu
Mae gennym yr hawl i derfynu neu ohirio eich mynediad i'r Ap yn ôl ein dewis, heb roi rhybudd, am unrhyw reswm, gan gynnwys torri'r Telerau hyn, ymhlith rhesymau eraill hefyd.
7. Deddf Lywodraethu
Caiff y Telerau ac Amodau hyn eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfreithiau'r Deyrnas Unedig, heb roi ystyriaeth i'w egwyddorion gwrthdaro cyfraith.
8. Cysylltwch â Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y Telerau hyn neu'r Ap hwn, cysylltwch â ni drwy: [email protected].